Cadeirydd Partneriaeth Dyfrffyrdd
Am y rôl
Mae hon yn rôl newydd mewn sefydliad newydd ac rydym yn chwilio
am bum person nodedig i helpu ein symud ymlaen dros y tair blynedd
nesaf.
Gan adrodd i Ymddiriedolwyr a Chyngor yr Elusen, chi fydd y prif
lysgennad ar gyfer eich Partneriaeth Dyfrffyrdd Leol, yn llywio
dyfodol dyfrffyrdd yn eich ardal.
Bydd y Partneriaethau Dyfrffyrdd yn datblygu gweledigaeth
gyffredinol ar gyfer eu dyfrffyrdd. Gan arwain ac ysbrydoli eich
Partneriaeth, byddwch yn gweithio gyda'r rheolwyr dyfrffyrdd i
ddatblygu strategaethau a chynlluniau ac annog mwy o bobl i
ddefnyddio eu dyfrffordd leol a bod yn rhan o'i gwaith.
Byddwch yn eiriol dros fuddiannau dyfrffyrdd gydag arweinwyr a
mudiadau gwleidyddol, busnes a'r sector gwirfoddol lleol ac yn
helpu denu adnoddau ac arian newydd i gynnal a chadw'r
dyfrffyrdd a'u gwella.Mae'r rolau'n wirfoddol ac fe delir treuliau,
a golygant tua 3-5 diwrnod y mis o'ch amser.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am bum unigolyn a chanddynt fedrau eithriadol.
Yn ogystal â rhinweddau arwain rhagorol, byddwch yn rhwydweithiwr,
cyfathrebwr a meddyliwr strategol hyderus. Bydd gennych yr hyder
a'r crebwyll i fod yn ddylanwadol ar bob lefel. Bydd gennych
brofiad o weithio mewn partneriaethau cymhleth yn cwmpasu'r
sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a phrofiad o weithio gyda
mudiadau mawr.
Gallech fod yn gysylltiedig ag elusen yn barod, neu'n gweithio
mewn gwleidyddiaeth neu'r sector masnachol. Beth bynnag eich
cefndir, bydd gennych brofiad nodedig ar lefel uwch a byddwch yn
fwy na pharod i helpu llywio dyfodol yr elusen dyfrffyrdd
newydd.
Am yr elusen dyfrffyrdd newydd
Mae rhwydwaith 200-mlwydd oed gwledydd Prydain o gamlesi,
afonydd a dociau hanesyddol yn denu dros 13 miliwn o bobl bob
blwyddyn ar gyfer cerdded, beicio, pysgota, cychod neu fwynhau'r
tawelwch braf.
Ym mis Ebrill 2012 bydd y dyfrffyrdd y mae Dyfrffyrdd Prydain yn
gofalu amdanynt ac yn eu cynnal a'u cadw yn Lloegr a Chymru yn dod
yn rhan o Elusen Dyfrffyrdd Newydd. Bydd yr Ymddiriedolaeth
Dyfrffyrdd yn uno gyda'r elusen dyfrffyrdd newydd pan gaiff ei
lansio.
Bydd y newid yn creu un o'r elusennau mwyaf yn y wlad a'r bwriad
yw gwella cynaliadwyedd ariannol hirdymor ein dyfrffyrdd a rhoi mwy
o rôl i'w defnyddwyr a'u budd-ddeiliaid.
Bydd yr elusen gyffrous newydd hon yn denu mwy o arian ac yn
rhoi mwy o rôl i bobl leol yn y ffordd y caiff eu dyfrffyrdd eu
rhedeg.
Ble
Rydym yn gobeithio penodi Cadeiryddion Partneriaethau Dyfrffyrdd
yn yr ardaloedd canlynol:
Gwneud Cais
Llanwch y ffurflen gais a danfonwch gopi o'ch CV at Roger
Hanbury.
Dyddiad cau: 11 Hydref 2011
Dyddiadau cyfweliadau;
- Manceinion & Pennine: Dydd Mawrth 1 Tachwedd
- Kennet & Avon: Dydd Mercher 2 Tachwedd
- Gogledd Cymru & Gororau: Dydd Llun 7 Tachwedd
- Cymru Gyfan: Dydd Mawrth 8 Tachwedd
- De Cymru & Hafren: Dydd Mercher 9 Tachwedd
Downloads
PROFFIL RÔL Cadeirydd Partneriaeth Dyfrffyrdd
PROFFIL RÔL Cadeirydd Partneriaeth Dyfrffyrdd Cymru Gyfan
Partneriaeth Dyfrffyrdd Cymru Gyfan - Cylch Gorchwyl
Partneriaeth
Dyfrffyrdd- Cylch Gorchwyl
Gwybodaeth Ychwanegol:
PROFFIL RÔL Aelod o Bartneriaeth Dyfrffyrdd Cymru
Gyfan
PROFFIL RÔL Aelod o Bartneriaeth Dyfrffyrdd
Celebrating our Canals and Rivers 1948-2011